tro / turn

Siân Barlow & Cathryn Gwynn

Arddangosfa o lyfrau artist, printiau, gwaith ar bapur / An exhibition of artists’ books, prints, works on paper

Open 10am to 4pm Wednesdays to Saturdays. / Ar agor 10am i 4pm o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn.

Sgwrs taro mewn yn y oriel i ddysgwyr Cymraeg/ Drop in gallery talk for Welsh learners gyda Cathryn - Hydref 19 October 10.30 ish. (Menter Iaith Sir Benfro)

Meet the artist/ make a tiny book gyda Sian - Hydref 20 October, 1pm-4pm & Tachwedd 4 November, 1pm - 4pm

Sgwrs a chrwydro’r oriel Criw Dysgwyr Arberth/ Narberth Welsh Learners gallery talk gyda Cathryn - Tachwedd 10 November (Menter Iaith Sir benfro)

Oriel Q presents an exhibition of work by two west Wales based artists, from Friday October 13th to Saturday November 11th.

Through their varied approach to the medium of artists books with accompanying works on paper they have created a collection of works combining the textual and visual, responding to words and places, of time and time passing, and of why and how we care.

Mae Oriel Q yn cyflwyno gwaith gan ddau artist yng ngorllewin Cymru, o ddydd Gwener Hydref 13eg hyd ddydd Sadwrn Tachwedd 11eg.

Trwy eu ffyrdd amrywiol o greu llyfrau artist gyda gwaith ar bapur i’w hebrwng maen nhw wedi creu casgliad o weithiau sy’n cyfuno y gair a’r gweledol, gan ymateb i iaith a lle, amser a threigl amser, a sut a pham ry’n ni’n gofalu.

 

Siân Barlow

Cathryn Gwynn

Siân Barlow

“A book is an object which creates its own space and rhythm, and it is also an object which can create a change. I think, for example, of mediaeval books of hours, which worked to draw attention to a rhythm of prayer, offering the reader a way to unfold their day with care.

The books in this exhibition were made one-a-day, every day over several months, a small grounding ritual. What they hold in common is a sense of repetition, the balance of sameness and change, a page turning, the story of the small moments of the day unfolding. There are resonances, in the turning of the pages of a book, with the turning of the days and of the seasons; of a year, of a life.

Siân arrived in west Wales as a baby, coming with her family from Brixton, where she was born. She has since made her life and her home here. She is of mixed English and Mauritian heritage. Following working for many years as an advocate in health and social care, she recently graduated with a degree in Fine Art Painting, Drawing and Printmaking, from Carmarthen School of Art.

****

“Mae llyfr yn wrthrych sy’n cynnig ei ofod a’i rythm ei hunan; gall hefyd ennyn newid. Dwi’n meddwl, er enghraift am Lyfr Oriau canol-oesol a weithiwyd i dynnu sylw at rythm gweddi, gan gynnig ffordd i’r darllenydd ymroi i’w ddydd gyda gofal.

Fe grewyd y llyfrau hyn dros gyfnod o sawl mis, un llyfr y dydd, defod fach i wreiddio’r hunan. Beth sy’n gyffredin iddyn nhw i gyd yw’r teimlad o ailadrodd, cydbwysedd rhwng aros yr un peth a newid, tudalen yn troi, stori munudau bach y dydd yn blodeuo. Mae yna atsain, yn nhroi tudalen llyfr, o droad y dydd a’r tymhorau, blwyddyn a bywyd.”

Daeth Sian i orllewin Cymru yn faban gyda’i theulu, o Brixton lle ganed hi. Ymgartrefodd yma a magu teulu. Yn Lloegr a Mauritius mae ei gwreiddiau. Wedi gyrfa fel eiriolydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, fe raddiodd yn ddiweddar o Ysgol Gelf Caerfyrddin gyda gradd mewn Celfyddyd Gain, Lluniadu a Phrint.

Cathryn Gwynn

Cathryn lives in north Pembrokeshire and, following a career in writing, editing and teaching, graduated with a Textiles degree from Carmarthen School of Art in 2020.

Her work combines different strands of interests; text is often woven into her use of thread, line, paper and colour. The significance and beauty of place and objects; the resonance of words; time passing - these are recurrent themes in her mixed-media work.

“Words are often where my work begins. The word Tro (Turn), which became the starting point for this exhibition, and all its idiomatic usages – such as tro byd (the world’s turning i.e. a long time), hen dro (old turn i.e. a pity), troad y rhod (the turn of the mill wheel i.e. circle of time), mynd am dro (going for a turn i.e. a walk) – is one which connects many aspects of my work. It’s a word which relates to the passage of time, to movement through places, to the turning of pages.

The book form is a perfect vessel for my way of working. It can be linear or serendipitous, offers a series of small glimpses, a sense of delicacy.’

****

Mae Cathryn yn byw yng ngogledd sir Benfro ac, yn dilyn gyrfa ym myd ysgrifennu, golygu ac addysgu, dilynodd gwrs Tecstilau yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, gan raddio yn 2020.

Mae ei gwaith yn cyfuno llinynnau gwahanol ei diddordebau; yn aml caiff testun ei gynnwys yn ei defnydd o edafedd, llinell, papur a lliw. Arwyddocad a harddwch llefydd a phethau; rhin geiriau; amser yn pasio - dyma’r themau sy’n brigo i’r wyneb yn ei gwaith cyfrwng-cymysg.

“Geiriau yw man cychwyn fy ngwaith yn aml. Mae’r gair Tro a’i holl ymadroddion, megis ers tro byd, hen dro, mynd am dro - sef man cychwyn creu yr arddangosfa hon - yn air sy’n cysylltu sawl agwedd o ‘ngwaith. Mae’n air sy’n ymwneud â threigl amser, symudiad trwy lefydd, a throi dalennau.

Me’r llyfr yn ffurf delfrydol ar gyfer fy ffordd i o ddehongli. Gall fod yn llinol neu gynnig darganfyddiadau annisgwyl. Me’n cynnig cyfres o gipolygon bach, teimlad o geinder.”